Ein Stori / Our Story
Ni yw Elen a Dylan Bowen, y tîm gŵr a gwraig y tu ôl i Gemwaith Bowen. Dechreuodd ein taith yn 2023 pan ddechreuodd Elen, sydd erioed wedi teimlo fwyaf cartrefol gyda llyfr braslun neu beiriant gwnïo, arbrofi gyda gemwaith wrth fwrdd y gegin. Er ei bod wedi astudio tecstiliau a chelf aeth ymlaen i ddilyn gyrfa mewn addysg gynradd – gan raddio gyda anrhydedd yn 2015 – ni wnaeth ei chariad at grefftio byth ei gadael. Trowyd nosweithiau hir wrth fwrdd y gegin yn brosiect angerddol ac yn y pen draw yn yrfa llawn amser. Heddiw, mae ein gweithdy yng nghanol cefn gwlad Gorllewin Cymru, lle mae’r bryniau tonnog a’r traethau gerllaw ym Mae Ceredigion yn ysbrydoli llawer o’i gwaith.
Mae darnau Elen yn adlewyrchu ei chefndir yn y celfyddydau a dysgu. Mae pob dyluniad wedi’i gynllunio’n ofalus ac yn cael ei grefftio â llaw, gan gyfuno technegau traddodiadol gwaith aur gyda arluniaeth gyfoes. Mae hi’n diolch i dirwedd syfrdanol Gorllewin Cymru am danio ei chreadigrwydd—mae gweadau cynnil, siapiau organig a lliwiau’r arfordir yn aml yn ymddangos yn ei modrwyau, mwclis a chlustdlysau. Mae dechrau fel gemwraig hunan‑ddysgedig wedi cadw Elen yn sylfaenol yn y ‘pam’ y tu ôl i bob darn: i greu gwrthrychau sydd ag ystyr ac sy’n para oes.
Wrth i’r busnes dyfu, dechreuodd Dylan; peiriannydd wrth ei waith o ddydd i ddydd roi cymorth. Roedd ei lygaid am gywirdeb a datrys problemau yn ategu’n berffaith reddfau creadigol Elen. Mae Dylan bellach yn gofalu am ochr dechnegol ein gwaith: dylunio gosodiadau cymhleth, rhedeg rhaglenni dylunio cynorthwyedig gan gyfrifiadur (CAD) a sicrhau bod pob darn yn gadarn o ran strwythur. Mae ei gyfraniadau’n ein galluogi i wthio ffiniau creadigol tra’n cadw’r safonau uchaf o grefftwaith. Mae’r hyn a ddechreuodd fel ymdrech unigol gan Elen bellach yn bartneriaeth wirioneddol, ac ni fyddem yn ei newid.
Yma yn Gemwaith Bowen, rydym yn gweithio’n unig gyda aur, platinwm ac arian sterling ac yn ymfalchïo mewn gorffen pob eitem â llaw. P’un a’i ydych yn chwilio am ddarn unigryw i’w wisgo bob dydd, anrheg ystyriol neu gomisiwn personol, rydym yn rhoi gofal ac arbenigedd i bob cam; o’r braslun cyntaf i’r sglein olaf. Rydym wrth ein bodd yn cydweithio â chwsmeriaid i adrodd eu straeon drwy gemwaith ac rydym yn ddiolchgar i’n cymuned am gefnogi busnes annibynnol sydd wedi’i wreiddio yng Ngorllewin Cymru.
Os hoffech weld mwy neu drafod comisiwn, ewch i bori yn ein siop neu cysylltwch â ni. Ni allwn aros i’ch helpu i greu rhywbeth hardd.
We’re Elen and Dylan Bowen, the husband‑and‑wife team behind Bowen Jewellery. Our journey began in 2023 when Elen, who had always felt most at home with a sketchbook or sewing machine, started experimenting with jewellery at our kitchen table. Although she’d studied textiles and art she pursued a career in primary education—graduating with honours in 2015—her love of crafting never left her. Late nights at the kitchen table turned into a passion project, and eventually into a full‑time career. Today, our workshop sits in the heart of rural West Wales, where the rolling hills and the nearby beaches of Cardigan Bay inspire much of her work.
Elen’s pieces reflect her background in both art and teaching. Each design is carefully planned and hand‑crafted, blending traditional goldsmithing techniques with contemporary artistry. She credits the breathtaking West Wales landscape with fuelling her creativity- subtle textures, organic forms and coastal hues often find their way into her rings, necklaces and earrings. Starting as a self‑taught jeweller has kept Elen grounded in the “why” behind every piece: to create objects that carry meaning and last a lifetime.
As the business grew, Dylan—an engineer by trade—began to lend a hand. His eye for precision and problem‑solving was the perfect complement to Elen’s creative instincts. Dylan now looks after the technical side of our work: designing complex settings, running computer‑aided‑design (CAD) programmes and ensuring each piece is structurally sound. His contributions allow us to push creative boundaries while maintaining the highest standards of craftsmanship. What began as Elen’s solo endeavour is now truly a partnership, and we wouldn’t have it any other way.
At Bowen Jewellery, we work exclusively with solid gold and sterling silver and take pride in finishing each item by hand. Whether you’re looking for a unique everyday piece, a thoughtful gift or a custom commission, we pour care and expertise into every stage—from initial sketch to final polish. We love collaborating with customers to tell their stories through jewellery and are grateful to our community for supporting an independent business rooted in West Wales.
If you’d like to see more or discuss a commission, please explore our shop or get in touch. We can’t wait to help you create something beautiful.
Gorllewin Cymru | West Wales
Os oes cwpwl o oriau gennych i’w lladd neu’n bwriadu cael sawl diwrnod i ffwrdd, mae yna ddigonedd gan Gorllewin Cymru ei gynnig.
Gyda’r traethau godidog yn ymestyn i lawr o Fae Ceredigion i fynyddoedd y Preseli mae yna ddigon i’w gwneud ac archwilio yma.
Mae fy ngweithdy tafliad carreg o’r dre’ farchnad hanesyddol Castell Newydd Emlyn ac o fewn rhwy ugain munud gallwch gyrraedd yr arfordir a mwynhau’r traethau hyfryd sydd gan Fae Ceredigion ei gynnig.
Eisteddwch nôl ac ymlaciwch yn un o fwytai safonol Aberteifi neu arhoswch yn un o westai neu lety gwyliau ffantastig yr ardal.
If you’ve only got a few hours to spare or even planning a weekend away, West Wales has plenty to offer.
With the beautiful coastline stretch from Bae Ceredigion to the Preseli mountains there’s plenty to do and explore.
My workshop is stones throw away from the historic market town of Newcastle Emlyn and 20 minutes or so from the coastline where you can visit the idyllic beaches Bae Ceredigion has to offer.
Sit back and relax in one of Cardigan’s award-winning restaurants or even stay the night at one of many fantastic hotels or holiday cottages the area has to offer.

Commissions | Comisiynau
Cadair Eisteddfod Yr Urdd 2023
Creuwyd y Gadair Gan
Bedwyn Rees
Old Oak Kitchens - Bespoke Handmade Kitchens in Wales
Wonky weavers
Yarns | Looms | Wonky Weaver, United Kingdom
Mick Sheridan, Upolstery
Rhoddwyd y Gadair Gan T. Richard Jones (Betws) Cyf.
TRJ website | Building on a firm foundation | Adeiladu ar Sylfaen Gadarn (trjltd.co.uk)
