Giving your treasured jewellery a new life.
Rhoi bywyd newydd i’ch trysorau.
Jewellery isn’t just metal and sparkly stones – it’s memories, love, and stories carried through time. But often, inherited pieces or old favourites end up tucked away in a box, unworn because they don’t quite fit your style anymore. We’d love to change that for you.
At Bowen Jewellery, we take the time to understand what makes your jewellery special, then carefully reimagine it into something fresh and contemporary that you’ll enjoy wearing every day. This way, you keep the sentiment and history, while giving your treasured pieces a new chapter to shine.
Nid metel a cherrig sglieniog yn unig yw gemwaith. Mae’n llawn atgofion, straeon teuluol, a theimladau dwfn sy’n cael eu cario o un genhedlaeth i’r llall. Ond yn rhy aml, mae darnau etifeddol neu hoff bethau o’r gorffennol yn cael eu gadael mewn bocs, heb eu gwisgo am nad ydynt bellach yn addas i’ch steil chi heddiw.
Rydyn ni yma i roi bywyd newydd iddyn nhw. Gyda gofal a chrefftwaith, rydyn ni’n gwrando ar beth sy’n gwneud eich darn yn arbennig, ac yna’n ei ail-greu fel rhywbeth cyfoes, ffres a hardd – darn y byddwch wrth eich bodd yn ei wisgo bob dydd. Felly, mae’r hanes a’r atgofion yn parhau, ond gyda disgleirdeb newydd i’w rannu a’u dathlu.
The Process | Y Broses
-

Consulatation | Ymgynghoriad
We’ll start with a relaxed chat, either in person or over Zoom — whichever works best for you. This is your chance to share the stories behind your treasured pieces, their history, and what you’d love to create with them.
If you already have a vision or photos for inspiration, that’s wonderful — but don’t worry if not. We’ll explore ideas together and get creative during our meeting.
Byddwn yn dechrau gyda sgwrs hamddenol, naill ai wyneb yn wyneb neu dros Zoom — beth bynnag sydd fwyaf cyfleus i chi. Dyma eich cyfle i rannu hanes a straeon eich eitemau gwerthfawr, a’r hyn yr hoffech ei greu gyda nhw.
Os oes gennych chi weledigaeth neu luniau i’ch ysbrydoli, mae hynny’n wych — ond peidiwch â phoeni os nad oes. Byddwn yn archwilio syniadau a bod yn greadigol gyda’n gilydd yn ystod y cyfarfod.
-

Design | Dylunio
Once we have a clear idea, we’ll bring the design to life — either on paper or using Computer Aided Design (CAD). As you can see in the example above, CAD allows us to create a realistic image of what your ring could look like.
When you’re happy with the design, we can 3D print it in resin for you to try on. This is an important step: it lets us check the fit and gives you a real sense of the finished piece. At this stage, changes can still be made, which is exactly why we do it — to give you peace of mind and ensure the final piece, made from your treasured materials, is just right.
Unwaith y bydd gennym syniad clir, byddwn yn dod â’r dyluniad yn fyw — naill ai ar bapur neu drwy ddefnyddio Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD). Fel y gwelwch yn yr enghraifft uchod, mae CAD yn ein galluogi i greu delwedd realistig o sut y gallai’ch modrwy edrych.
Pan fyddwch yn hapus gyda’r dyluniad, gallwn ei argraffu mewn resin 3D i chi ei drio. Mae hwn yn gam pwysig: mae’n ein galluogi i wirio’r maint ac yn rhoi blas i chi o’r darn gorffenedig. Yn y cam hwn, mae’n dal yn bosibl gwneud newidiadau — a dyna’n union pam rydym yn ei wneud, i roi tawelwch meddwl i chi a sicrhau bod y darn terfynol, wedi’i greu o’ch deunyddiau gwerthfawr, yn berffaith.
-

The Making | Y Creu
Once you’re happy with the design, we can begin the making process. Depending on what’s needed, we may work with trusted casting specialists to shape your piece in your own sentimental gold, before it returns to our workshop to be carefully hand-finished. Hand-finishing means refining the cast by removing sprues, soldering, filing, polishing, setting stones, and giving it a final polish.
In other cases, everything is created in-house — from melting and rolling the gold to forming your design using traditional goldsmithing methods. It all depends on the piece we’re making together.
Unwaith y byddwch yn hapus gyda’r dyluniad, gallwn ddechrau ar y broses o greu. Yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen, efallai y byddwn yn gweithio gyda gweithwyr castio profiadol i siapio eich darn yn eich aur sentimentol eich hun, cyn iddo ddychwelyd i’n gweithdy i gael ei orffen â llaw yn ofalus. Mae gorffen â llaw yn golygu mireinio’r cast drwy dynnu’r brigyn, sodro, ffeilio, sgleinio, gosod cerrig, ac yna rhoi’r sglein terfynol.
Ar adegau eraill, caiff popeth ei greu yn fewnol — o doddi a rholio’r aur i ffurfio eich dyluniad gan ddefnyddio dulliau gofaintaur traddodiadol. Mae popeth yn dibynnu ar y darn rydym yn ei greu gyda’n gilydd.